Le Monde

.

Teithlen

Le Monde

Dechrau
1. Dydd #1
Diwrnod 1

Casglu car llogi a gyrru i Sir Benfro o Gaerdydd.

Cofrestru ar gyfer y noson yng Ngwesty a Bwyty Llys Meddyg

Swper yn Llys Meddyg.

2. Dydd #2
Diwrnod 2,

AM

Gyrru i Harbwr Abergwaun, i fynd ar fferi i Rosslare yn Iwerddon.

PM

Gyrru i'ch llety yng Ngwesty'r Majestic, Tramore, oddeutu awr a 10 munud o Harbwr Rosslare, lle byddwch yn aros dros nos.

Ar ôl i chi ymgartrefu yn eich llety, cerdded i mewn i dref Tramore i gael swper yn y dafarn draddodiadol Wyddelig, The Esquire.

3. Dydd #3
Diwrnod 3

AM

Ymweld â Dinas Waterford ac Amgueddfa Ganoloesol Waterford.
Honnir mai Waterford yw dinas hynaf Iwerddon, ac mae'n frith o chwedlau, pensaernïaeth, crandrwydd a llên gwerin Llychlynnaidd.

Mwynhau Profiad Taith 'VIP' yn yr Amgueddfa Ganoloesol.

Opsiynau ar gyfer Cinio: Mae Momo yn fwyty arobryn Catalaneg Môr y Canoldir. Os oes arnoch awydd rhywbeth ysgafnach a mwy hamddenol, mae'r Granary Café yn cynnig quiches, brechdanau a saladau.

 

PM

Taith ffordd arfordirol Ring of Hook a Goleudy Hook

Yn ymestyn allan o gornel prydferth de-ddwyrain Iwerddon, ger Waterford a Kilkenny, mae Penrhyn Hook yn enwog am ei olygfeydd syfrdanol, ei dirweddau naturiol godidog, ei safleoedd treftadaeth cenedlaethol, ei erddi hardd, ei dywod pur a'i foroedd tawel – ac wrth gwrs, goleudy enwog Hook – yr hynaf yn y byd!

 

Teithio i'ch llety dros nos, y Forest Sea Lodge ar Ystad Tara Hill.

 

Swper yn y Raspberry Rooms

4. Dydd #4
Diwrnod 4

AM

Cerdded ar hyd Dyffryn Avoca

Gyrru i Woodenbridge, pentref bach yn Nyffryn Avoca, sydd rhwng Arklow ac Avoca, wrth fan cyfarfod afonydd Avoca, Aughrim a Goldmine. Yma mae nifer o lwybrau hardd i’w harchwilio yn y rhan ysblennydd hon o’r byd.

 

Cinio: Ymweld â'r Old Ship, tafarn Wyddelig draddodiadol sy'n gweini bwyd a gynhyrchwyd yn lleol.

 

PM

Mynd i Harbwr Rosslare ar gyfer eich fferi yn ôl i Abergwaun yng Nghymru.

 

Teithio i'ch llety ar gyfer dwy noson yng ngwesty Tŵr y Felin.

 

5. Dydd #5
Diwrnod 5

AM

Tyddewi a'r Eglwys Gadeiriol

Cerdded i ganol Tyddewi (dim ond 10 munud ar droed o westy Tŵr y Felin) ac archwilio siopau, tafarndai ac Eglwys Gadeiriol hynafol dinas leiaf y DU.

 

Opsiynau ar gyfer Cinio: Mae'r Really Wild Emporium ar y stryd fawr yn wych os ydych yn chwilio am fwyd lleol o ffynonellau cynaliadwy. Mae yno siop hefyd sy'n gwerthu cynnyrch lleol.

 

PM

Y Lagŵn Glas ac Abereiddi

Cerdded yn ôl i westy Tŵr y Felin i nôl eich car a mynd i Abereiddi. Mae Abereiddi, neu'r Shinc, yn hen chwarel, fymryn i'r gogledd o'r traeth ym Mae Abereiddi, y cefnwyd arni ac a foddwyd yn 1910 wrth i'r graig a oedd yn ei gwahanu o'r môr gael ei chwalu, gan adael i'r tonnau lifo i mewn. Mae'r ardal yn boblogaidd ymhlith cerddwyr, gan fod Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd heibio i'r Shinc, ac mae yna lwybrau syfrdanol o hardd i'w cael ar hyd pennau'r clogwyni gerllaw.

 

Siambr Gladdu Pentre Ifan

Wedi'i adeiladu o Gerrig Gleision Preseli, sef yr un cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu ei ‘frawd mawr’ yng Nghôr y Cewri, mae Pentre Ifan yn cael ei ystyried yn gyffredinol yn siambr gladdu gymunedol ac mae'n gamp drawiadol o ran dulliau adeiladu hynafol. Mae'r maen capan, sy'n 5 m o hyd, yn pwyso 15 tunnell, ac yn sefyll yn ansicr ar dri maen unionsyth, wedi llwyddo i aros yn ei le am dros 5,000 o flynyddoedd.

 

Swper ym Mwyty Blas yng ngwesty Tŵr y Felin.

 

Aros dros nos yng ngwesty Tŵr y Felin.

6. Dydd #6
Diwrnod 6

AM

Castell Aberteifi, Llangrannog a Chilborth.

Mynd i Aberteifi i archwilio'r waliau canoloesol a chwilio am weddillion y castell. Ymweld â’r Plasty Sioraidd hardd a dysgu am y bobl a fu’n byw yn y castell yn ystod ei hanes; crwydro trwy'r gerddi trawiadol rhestredig Gradd II sy'n llawn rhywogaethau planhigion prin.

 

Opsiynau ar gyfer Cinio: Cegin 1176 yng Nghastell Aberteifi yw caffi a bwyty'r safle.

 

PM

Llangrannog a Chilborth

Mae gan bentref glan môr hardd Llangrannog draeth hardd, a chwpl o dafarndai a chaffis. Mae hefyd yn cynnig ystod eang o gyfleusterau chwaraeon a hamdden – mae caiacio ar y môr yn boblogaidd iawn yma. Gellir cyrraedd traeth cudd tlws Cilborth o Langrannog, a hynny naill ai ar drai ar draws y traeth, neu drwy ddilyn grisiau serth ar lwybr yr arfordir.

 

Gyrru i'ch llety newydd, Jabajak Vineyard and Rooms, lle byddwch yn mwynhau taith o amgylch y winllan a sesiwn blasu gwin ar ôl cyrraedd.

 

Swper ym mwyty  Jabajak.

7. Dydd #7
Diwrnod 7

AM

Cartref Dylan Thomas, y Boathouse, ac archwilio Talacharn

Ar ôl cyrraedd Talacharn, crwydro i lawr i gartref Dylan Thomas, y Boathouse, gan ddilyn Taith Dylan o Brown's, sydd oddeutu 10 munud ar droed.

 

Awgrymiadau ar gyfer cinio: Mae gan y Boathouse ystafelloedd te sy'n cynnig byrbrydau ysgafn megis sgons, pice ar y maen a bara brith ffres. Mae yna hefyd ddetholiad o dafarndai a bwytai prysur i ddewis ohonynt yng nghanol Talacharn, megis y Fountain Inn ac Arthur's.

 

PM

Teithio i Faes Awyr Bryste a hedfan adref.

Diwedd