Llio Angharad

Llio Angharad

Teithlen

Diwrnod 1

Diwrnod 1

Dechrau
1. Dydd #4
Diwrnod 1

Diwrnod 1

Fferi (gyda char) o Abergwaun er mwyn cyrraedd Harbwr Rosslare, Iwerddon

 

Cofrestru yn The Wild Rooms ar Ystad Tara Hill yn Wexford, am ddwy noson.

Mae The Wild Rooms yn brofiad byw yn yr awyr agored o ddyluniad unigryw. Maent yn 'ystafelloedd crand yn yr anialwch' wedi'u hadeiladu gan ddefnyddio'r deunyddiau gorau ac yn swatio'n berffaith yng nghanol byd natur.

2. Dydd #2
Diwrnod 2

AM

Mynd i Glendalough, dyffryn rhewlifol yn Wicklow sydd â golygfeydd godidog.

 

Taith Gerdded Poulanass a Chell Sant Kevin

Manylion: 1.2 km, 45 munud, gydag un llethr serth tua’r diwedd, ond y wobr a gewch fydd golygfeydd dros y Llyn Uchaf.

 

PM

Bae Brittas

Bae Brittas yw un o'r eangderau gorau o draethlin ar yr arfordir dwyreiniol. Credir mai yn Three Mile Water ym Mae Brittas y glaniodd Sant Padrig gyntaf yn Iwerddon. 

 

Cinio – prynu rhywbeth ar eich taith, neu fynd i'r Elephant and Castle ym Mae Brittas.

 

 

Swper: The Kitchen

3. Dydd #3
Diwrnod 3

madael â The Wild Rooms.

 

Gyrru i Oleudy Hook
Goleudy Hook yw goleudy gweithredol hynaf y byd, sy'n sefyll ers dros 800 mlynedd. Mae Penrhyn Hook yn Ardal Cadwraeth Arbennig oherwydd y bywyd gwyllt prin a welir yma, gan gynnwys y dolffiniaid trwyn potel a'r morfilod asgellog a chefngrwm.

 

Cofrestru yn y Tannery am y noson

Tŷ tref a thafarn chwaethus a chyfoes, ynghyd â bwyty ac ysgol goginio â steil Wyddelig, dan ofal y cogydd Paul Flynn.

 

Swper yn y Tannery.

4. Dydd #4
Diwrnod 4

Ymadael â'r Tannery.

 

Treulio'r diwrnod yn crwydro Dinas Waterford

Daeth y Llychlynwyr yn rhan bwysig o stori Iwerddon, ac yn arbennig felly yn Waterford lle yr ymgartrefodd llynges fawr o oresgynwyr Llychlynnaidd, gan ffurfio cynghreiriau a sefydlu llwybrau masnachu o 914 ymlaen.  

 

Cofrestru yn y Waterford Viking Hotel.

 

Mwynhau pryd gyda'r nos yn Bodega.

5. Dydd #5
Diwrnod 5

Waterford Greenway a Thraeth Tramore

Ar ôl cael brecwast ac ymadael â'r gwesty, mynd ar daith fer yn y car i Faes Parcio Killoteran Greenway. Yma gallwch fynd am dro ar hyd Waterford Greenway, hen reilffordd Dinas Waterford i Dungarvan sydd wedi'i thrawsnewid yn llwybr cerdded a beicio oddi ar y ffordd 46 km.

 

Ar ôl crwydro ar hyd Killoteran Greenway, gyrru'r pellter byr i Draeth Tramore er mwyn mynd am dro. Mae i Draeth Tramore dair milltir o draeth tywodlyd, ynghyd â thwyni tywod a llwybrau ar hyd y clogwyni.

 

Bydd yn cymryd oddeutu awr ac 20 munud i chi yrru i Wexford ar gyfer eich arhosfan olaf cyn y fferi.

 

Mynd i'r Lobster Pot i gael cinio hwyr cyn dychwelyd adref ar y fferi.

Diwedd