Rachel Broomhead // The Wicklow Way

.

**Itinerary**

Rachel Broomhead // The Wicklow Way

**Start**
1. **Day** #1
Diwrnod 1, dydd Llun 13

Fferi o Gaergybi i Ddulyn
Cyfeiriad y porthladd fferïau:
Terfynfa Un, Caergybi, Ynys Môn, LL65 2BU

Amser cofrestru hwyraf: 10:30
Yn gadael Caergybi: 11:30
Yn cyrraedd Dulyn: 13:45

Cyfeirnod archebu: 30159900
Bydd arnoch angen y rhif hwn i gofrestru

Cyrraedd Dulyn

Bydd gennych ychydig o amser rhwng yr adeg pan fydd y fferi yn cyrraedd a'r adeg pan fydd y trên nesaf yn gadael am Rathdrum, felly mae croeso i chi archwilio Dulyn am ychydig o oriau. Os hoffech gael tacsi i mewn i Ddulyn o'r porthladd ac yna 'nôl eto i'r orsaf drenau, mae croeso i chi wneud hynny. Byddwn yn ad-dalu'r gost i chi.

Teithio i orsaf drenau Connolly
Cyfeiriad:
Doc y Gogledd, Dulyn 1, Iwerddon

Trên o Orsaf Connolly i Rathdrum
Yn gadael Connolly: 16:33
Yn cyrraedd Rathdrum: 18.02
(Pen taith y trên yw Rosslare)

Aros dros nos yng Ngwesty Gwely a Brecwast Stirabout Lane yn Rathdrum (Gwely a brecwast yn gynwysedig)
Cyfeiriad: Main St, Balleese Lower, Rathdrum, Swydd Wicklow, A67 EF84, Iwerddon
Mae hwn llai nag 1 km o'r orsaf drenau.

Awgrym ar gyfer swper: Jacob’s Well (tafarn ynghlwm wrth westy)
Cyfeiriad:
Main St, Rathdrum, Swydd Wicklow, Iwerddon
Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno.
*Cadwch eich derbynebau, a byddwn yn ad-dalu'r gost

 

Gwybodaeth am The Wicklow Way:
Yn union i'r de o Ddulyn, mae Swydd Wicklow – a elwir yn Ardd Iwerddon – yn ehangder gwyllt o arfordir, coetir a mynyddoedd mawreddog y mae llwybr cerdded mwyaf poblogaidd y sir yn rhedeg trwyddynt. Y Wicklow Way yw llwybr marciedig hynaf Iwerddon, a syniad y cerddwr bryniau enwog, J. B. Malone; agorodd y llwybr yn 1980. Mae'r Wicklow Way yn dechrau ym maestref ddeheuol Dulyn, Rathfarnham, ac yn teithio ar draws ucheldiroedd Dulyn a Wicklow, yna trwy fryniau gwledig de-orllewin Swydd Wicklow, ac yn gorffen ym mhentref bach Clonegal ar y ffin rhwng Wicklow a Carlow, 127 km yn ddiweddarach. Mae cyfuniad o barcdir maestrefol, llwybrau coedwig, llwybrau mynydd ac, yn olaf, gefn gwlad agored, yn cynnig profiad amrywiol ac, ar adegau, heriol i gerddwyr, am 7-10 diwrnod. Ar y ffordd, byddwch yn mynd heibio i lynnoedd prydferth, gerddi ysblennydd, plastai gosgeiddig y 18fed ganrif, ac adfeilion anheddiad mynachaidd Cristnogol cynnar.

2. **Day** #2
Diwrnod 2, dydd Mawrth 14

Bydd bagiau dros nos yn cael eu trosglwyddo i bob gwesty ac oddi yno ar eich cyfer. Gadewch eich bagiau yn ddiogel gyda staff y dderbynfa, a chânt eu trosglwyddo yn barod i chi pan fyddwch yn cyrraedd pob llety.
Manylion:
https://wicklowwaybaggage.com/
Y cyswllt yw Theresa Stacey: +353 86 2698659

Casglu cinio cyn y daith: o'r siop fach ger Gwesty Stirabout

Y daith o Avonmore Way i Larah/Glendalough – tua 15 km
Map
https://www.plotaroute.com/route/1687657

Bydd Frederic Verdier yn cwrdd â chi fore Mawrth i gerdded ar hyd rhan o'r daith gyda chi, gan ddarparu mapiau i chi ar gyfer taith pob diwrnod.
Rhif cyswllt:
+353879089639

Cyrraedd Glendalough

Gwybodaeth: Wedi'i gerfio gan rewlifoedd yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, mae Glendalough neu Gleann dá Loch, sy'n golygu ‘Dyffryn y Ddau Lyn’, yn cyfuno harddwch naturiol â llonyddwch nefolaidd. Does dim syndod bod Sant Kevin wedi sefydlu anheddiad mynachaidd yma yn y 6ed ganrif. Dywedir iddo dreulio saith mlynedd ar ei ben ei hun mewn ogof ger y Llyn Uchaf, a elwir yn St Kevin’s Bed.

Er ei fod yn un o dlysau twristiaeth yng nghoron Dwyrain Hynafol Iwerddon, os nad Iwerddon gyfan, ni fydd angen i chi grwydro'n rhy bell i ddarganfod y llonyddwch a'r ysbrydolrwydd a ddenodd y mynachod yma ganrifoedd yn ôl.

Aros dros nos yn Wicklow Heather (Gwely a brecwast yn gynwysedig)
Cyfeiriad:
Heather House, Ballard, Laragh, Swydd Wicklow

Swper: 7pm ym mwyty Wicklow Heather
Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno.
Byddwn ni'n talu eich bil.

3. **Day** #3
Diwrnod 3, dydd Mercher 15

Pecyn cinio: Gall gwesty'r Heather ddarparu pecyn cinio i chi ar gyfer y daith; gofynnwch am becyn cinio wrth gofrestru, a rhowch wybod iddynt beth yr hoffech ei gael.

Cerdded ar hyd y Spinc o amgylch Dyffryn Glendalough ac ar hyd y Wicklow Way i Roundwood – tua 20 km
Map
https://www.plotaroute.com/route/1687770

Gwybodaeth: Mae cefnen Spinc yn edrych dros ddyffryn godidog Glendalough. Cewch eich gwobrwyo am gwblhau esgyniad anodd â golygfeydd godidog, nid yn unig o'r dyffryn, ond wrth i chi ddringo'n uwch, bydd yr olygfa dros Ucheldiroedd Wicklow yn ei datgelu ei hun o'ch cwmpas. Mae'r ffordd yn esgyn yn serth ar hyd llwybr i fyny ger Rhaeadr Poulanass, cyn ymuno â llwybr pren a grisiau pren sy'n arwain at olygfan drawiadol sy'n edrych dros y Llyn Uchaf.

Cyrraedd Roundwood

Aros dros nos yn Wicklow Way Lodge (Gwely a brecwast yn gynwysedig)
Cyfeiriad: Wicklow Way Lodge, Oldbridge, Roundwood, Swydd Wicklow, A98 K702

Swper: 7pm yn The Coach House
4 km o'r Wicklow Way Lodge. Byddwn yn trefnu tacsi i chi o'r Wicklow Way Lodge, i fynd â chi yno a dod â chi 'nôl ar ôl eich pryd bwyd.
Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno.
*Cadwch eich derbynebau, a byddwn yn ad-dalu'r gost

4. **Day** #4
Diwrnod 4, dydd Iau 16

Pecyn cinio: Gall y Wicklow Way Lodge ddarparu pecyn cinio i chi ar gyfer y daith; gofynnwch am becyn cinio wrth gofrestru, a rhowch wybod iddynt beth yr hoffech ei gael.

Cerdded ar hyd y Wicklow Way o Rathdrum i Enniskerry – tua 20 km
Map
https://www.plotaroute.com/route/1687783

Aros dros nos yn Coolakay House (Gwely a brecwast yn gynwysedig)
Cyfeiriad: Powerscourt Waterfall Road, Enniskerry, Swydd Wicklow

Swper: 7pm yn yr Enniskerry Inn
Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno.
*Cadwch eich derbynebau, a byddwn yn ad-dalu'r gost

Bydd Yvonne o Coolakay House yn mynd â chi i lawr i Enniskerry Inn mewn cerbyd ac yn rhoi rhif i chi ei ffonio i drefnu tacsi 'nôl.
*Cadwch dderbynneb eich tacsi, a byddwn yn ad-dalu'r gost

5. **Day** #5
Diwrnod 5, dydd Gwener 17

Pecyn cinio: Gall Coolakay House ddarparu pecyn cinio i chi ar gyfer y daith; gofynnwch am becyn cinio wrth gofrestru, a rhowch wybod iddynt beth yr hoffech ei gael.

Cerdded ar hyd y Sugarloaf Way o Enniskerry i Bray (20 km)
Map
https://www.plotaroute.com/route/1687792

Gwybodaeth: Mae'r llwybr newydd ardderchog hwn 'nawr yn cysylltu ac yn estyn nifer o lwybrau adnabyddus eraill i ffurfio taith hir a heriol. Mae'r daith yn dilyn llwybr ar draws tir amrywiol, sy'n cynnwys dringo mynyddoedd garw, a cherdded ar hyd llwybrau gwastad a thawel mewn coedwig, trwy dir ffermio ffrwythlon, ac ar hyd heolydd cefn gwlad. Mae'r daith, y gall y cerddwr profiadol ei chwblhau mewn diwrnod, yn datgelu'r hyn sydd orau o ran tirweddau Wicklow – o fistâu gwefreiddiol o'r môr i olygfeydd gwledig godidog sy'n ymestyn ar draws caeau, mynyddoedd ac i'r awyr uwchben.

Aros dros nos yng Ngwesty Martello, Bray (Gwely a brecwast yn gynwysedig)
Cyfeiriad: 47 Strand Rd, Bray, Co. Wicklow, Iwerddon

Swper: 8:30 ym Mwyty Martello
Mwynhewch bryd tri chwrs ac alcohol gyda'ch bwyd os byddwch yn dymuno. Byddwn ni'n talu eich bil.

6. **Day** #6
Diwrnod 6, dydd Sadwrn 18

Ymadael â'r gwesty

*Os oes gennych unrhyw broblemau neu ymholiadau, ffoniwch Esme ar 07835713273 unrhyw bryd, neu Frederik ar +353879089639


Cadwch yr holl dderbynebau am y prydau gyda'r nos (os nad ydym eisoes wedi talu amdanynt)
, parcio (lle bo hynny'n bosibl), a phetrol, ynghyd â nodyn o gyfanswm y milltiroedd, a byddwn yn ad-dalu'r costau i chi.

**End**