Llandeilo a Dyffryn Tywi
Yn nhref farchnad dlos Llandeilo, gyda'i strydoedd cul, ei thai Sioraidd wedi'u peintio'n brydferth, a dewis o siopau bwtîc, siopau coffi ac orielau, daw'r byd ffermio a steil cefn gwlad ynghyd. Ac er bod yr ardal yn gymharol fach, mae Dyffryn Tywi yn cynnig nifer o atynfeydd treftadaeth a diwylliannol, a hynny yng nghanol golygfeydd sydd ymhlith y mwyaf godidog yng Nghymru.
Awgrymiadau ar gyfer lleoedd i ymweld â nhw gerllaw:
Carreg Cennen – mae'r castell, sy'n brif elfen yn yr wybren am filltiroedd, yn dyddio 'nôl i'r 13eg ganrif.
Ystad a Chastell Dinefwr – ystad 800 erw drawiadol ychydig y tu allan i Landeilo; mae iddi le pwysig yn hanes Cymru.
Gerddi Aberglasne – mae'r gerddi muriog ffurfiol hyn yn dyddio o oes Elizabeth, ac mae yna Ardd Clwysty unigryw yn eu canol.
Aros dros nos yn y Cawdor, Llandelio.
Swper ym mwyty'r Cawdor.
AM
Gyrru i Hwlffordd, Sir Benfro – oddeutu awr a hanner, a mynd ar drip mewn cwch i ynysoedd Sgomer a Sgogwm gyda Dale Princess a Dale Sea Safaris.
Mae Sgomer, Sgogwm a Gwales yn driawd o ynysoedd wedi'u grwpio gyda'i gilydd ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sydd â chymaint o fywyd gwyllt i’w fwynhau.
Awgrymiadau ar gyfer cinio: The Griffin – wrth ymyl maes parcio Traeth Dale.
Dewisol: Cerdded rhan o Lwybr Arfordir Sir Benfro o’r maes parcio yn Dale, neu fynd ar daith i Draeth Marloes a cherdded hanner milltir ar y clogwyn i lawr i’r traeth lle cewch eich croesawu gan 1.5 km o draeth eang, a hwnnw'n frith o dyrau tywodfaen â'u traed ym mhyllau'r trai sy'n disgleirio â physgod mân a berdys, yn ogystal â golygfeydd o ynysoedd Sgogwm a Gateholm.
Aros dros nos ym Mharc Slebets, Arberth.
Swper ym Mharc Slebets.
AM
Rhaeadrau Cenarth
Ymweld â Rhaeadrau Cenarth (ar y ffordd i Geinewydd o Sir Benfro) – oddeutu 50 munud o Hwlffordd
Ar y ffin rhwng tair sir – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – y mae pentref hyfryd Cenarth. Prif atynfa'r pentref ers oes Victoria yw ei gyfres o raeadrau ar Afon Teifi.
PM
Ceinewydd
Mae Bae Aberteifi yn enwog am ei ddolffiniaid trwyn potel, sydd â phoblogaeth o tua 250. Cânt eu denu yma gan y meysydd bwydo toreithiog, y cynefin digyffwrdd, a'r dyfroedd glân.
Aros dros nos yn y Falcondale, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion.
Swper yn y Falcondale.
AM
Ystrad Fflur
Ymweld ag Abaty Ystrad Fflur cyn mynd adref.
Mae Abaty Ystrad Fflur, neu Strata Florida yn Lladin, wedi sefyll mewn llonyddwch mynachaidd ar lannau Afon Teifi er 1201. Cafodd ei sefydlu gan fynachod Sistersaidd ac, yn fuan iawn, hon oedd yr eglwys enwocaf yng Nghymru ar ôl Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a daeth yn gonglfaen i ddiwylliant Cymreig.