Y Cylchgrawn Choice

.

**Itinerary**

Y Cylchgrawn Choice

**Start**
1. **Day** #1
Diwrnod 1, dydd Llun

Gyrru o adre (Peterborough) i Sir Gaerfyrddin – tua 4 awr 30 munud

Llandeilo a Dyffryn Tywi

(dilynwch [SA19 6EN] i gyrraedd maes parcio'r gwesty – gallwch ddefnyddio'r maes parcio hwn yn fan sefydlog i chi ar gyfer tref Llandeilo am ei fod yn ganolog iawn)

Gwybodaeth: Yn nhref farchnad dlos Llandeilo, gyda'i strydoedd cul, ei thai Sioraidd wedi'u peintio'n brydferth, a dewis o fwtîcs, siopau coffi ac orielau, daw cefn gwlad a chwaeth ynghyd. Ac er bod yr ardal yn gymharol fach, mae Dyffryn Tywi yn cynnwys nifer o atynfeydd treftadaeth a diwylliannol, a hynny yng nghanol golygfeydd sydd ymhlith y mwyaf godidog yng Nghymru.

Awgrymiadau ar gyfer lleoedd i ymweld â nhw yn Nyffryn Tywi:

Carreg Cennen [SA19 6UA] – mae'r castell, sy'n tremio dros y dirwedd, yn dyddio 'nôl i'r 13eg ganrif.
Yn agored 9:30am-6pm – tâl mynediad £5.50 y pen

Ystad a Chastell Dinefwr [SA19 6RT] – ystad 800 erw drawiadol ychydig y tu allan i Landeilo; mae iddi le pwysig yn hanes Cymru. Mae'r gaer yn sefyll ar gopa bryn sy'n edrych dros Ddyffryn Tywi, a dyma oedd lleoliad llys yr Arglwydd Rhys ar un adeg, lle y byddai'n dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch Cymru.
Yn agored 10am-4pm

Gerddi Aberglasne [SA32 8QH] – mae'r gerddi muriog ffurfiol hyn yn dyddio o oes Elizabeth, ac mae yna ardd glwysty unigryw yn y canol; gellid maddau i chi am feddwl eich bod yn crwydro trwy set drama gyfnod yma.
Yn agored 10am-6pm (mynediad olaf 5pm)

 

Aros dros nos yn y Cawdor, Llandeilo
(dwy ystafell ddwbl en suite)
Cyfeiriad: Stryd Rhosmaen, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin SA19 6EN

Gwybodaeth: Mae gan y Cawdor faes parcio preifat, wedi'i leoli y tu cefn i'r gwesty. Gallwch stopio'r car y tu allan i adael eich bagiau wrth y dderbynfa, a byddwn yn eich cyfeirio at ein cyfleusterau parcio. Nodwch fod y Cawdor yn adeilad rhestredig ac nad oes ynddo lifft. *Gwisgwch fasg ym mhob ardal gymunedol.

Mae brecwast yn gynwysedig, a chodir tâl am swper arnom ni wedi i chi ymadael.

Gellir cofrestru o 3pm ymlaen:

Rhaid ymadael erbyn 11am

Swper yn y Cawdor:
Bwrdd i ddau wedi'i archebu ar gyfer 7:30pm

2. **Day** #2
Diwrnod 2, dydd Mawrth

AM – gyrru i Hwlffordd, Sir Benfro – tua 1 awr 30 munud

12pm – taith ar gwch i ynysoedd Sgomer a Sgogwm. Mae'r daith wedi'i harchebu, a thalwyd amdani.
Gwybodaeth: Byddwch yn cwrdd â Gareth – 07969 552006

Cyfeiriad: Dale Princess a Dale Sea Safaris – Dale, Hwlffordd SA62 3RB
Bydd y cwch yn gadael o'r pontŵn. *Mae'r man codi hwn yn dibynnu ar y tywydd – byddaf yn rhoi gwybod i chi ddydd Llun am unrhyw newidiadau.
 

Mae yna le i barcio ym maes parcio Traeth Dale – bydd y cod post yn mynd â chi yno – talu ac arddangos, arian parod yn unig.

 

Mae Sgomer, Sgogwm a Gwales yn driawd o ynysoedd wedi'u grwpio gyda'i gilydd ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – mae'n dymor bridio'r morloi o amgylch Sgomer ar hyn o bryd, felly bydd yna ddigon o gyfleoedd i weld morloi, yn ogystal â golygfeydd gwych o'r ynysoedd.

 

Awgrymiadau ar gyfer cinio: The Griffin – wrth ymyl maes parcio Traeth Dale.
Enillydd rhanbarthol y Gwobrau Tafarnau Cenedlaethol 2019.
*Noder, mae'r gegin yn cau am 2:30pm, felly mae hyn yn dibynnu ar pryd y byddwch yn cyrraedd 'nôl o'r daith ar y cwch.

 

Dewisol: Ymweld â rhan o Lwybr Arfordir Sir Benfro o'r maes parcio yn Dale

Neu: Traeth Marloes a cherdded yr hanner milltir ar hyd y clogwyni i lawr i'r traeth

(dilynwch [SA62 3BH] i gyrraedd yno – maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd angen newid)

Gwybodaeth: Cewch eich croesawu gan 1.5 km o draeth eang â digon o le, a hwnnw'n frith o dyrau tywodfaen â'u traed ym mhyllau'r trai sy'n disgleirio â physgod mân a pherdys, yn ogystal â golygfeydd o ynysoedd Sgogwm a Gateholm.

Aros dros nos ym Mharc Slebech, Arberth

(dwy ystafell ddwbl en suite)
Cyfeiriad: Ystad Parc Slebech, Y Rhos, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 4AX

Mae lwfans ar gyfer brecwast a swper yn gynwysedig – rwyf wedi gofyn i'r gwesty anfon anfoneb atom am unrhyw beth dros y swm hwnnw. Ni fydd yn rhaid i chi dalu am hwn wrth adael.

Gellir cofrestru o 3pm ymlaen:

Rhaid ymadael erbyn 11am

Swper ym Mharc Slebech: Bwrdd i ddau wedi'i archebu ar gyfer 6:30pm

3. **Day** #3
Diwrnod 3, Dydd Mercher

AM

Dewisol: Ymweld â Rhaeadrau Cenarth (ar y ffordd i Geinewydd o Sir Benfro) – tua 50 munud o Hwlffordd

(dilynwch [SA38 9JL] i gyrraedd maes parcio'r harbwr – parcio am dâl; bydd angen newid yma)

Gwybodaeth: Ar y ffin rhwng tair sir – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – y mae pentref hyfryd Cenarth. Prif atynfa'r pentref ers oes Victoria yw ei gyfres o raeadrau ar Afon Teifi.

Yn yr hydref, daw ymwelwyr o bobman i wylio golygfa wefreiddiol yr eog yn neidio. Yn ystod y ffenomen naturiol hon, mae'r eog yn brwydro i neidio dros y rhaeadrau er mwyn mynd i fyny'r afon i silio.  

PM

Ymweld â Cheinewydd i wylio'r dolffiniaid

(dilynwch [SA45 9NR] i gyrraedd maes parcio'r harbwr – parcio am dâl; mae yna beiriant cardiau yn y maes parcio os na fydd gennych newid)

Gwybodaeth: Mae Bae Aberteifi yn enwog am ei ddolffiniaid trwyn potel, gyda'i boblogaeth o tua 250. Cânt eu denu yma gan y meysydd bwydo toreithiog, y cynefin heb ei gyffwrdd, a'r dyfroedd glân. Mae'n bosibl gweld dolffiniaid trwyn potel trwy gydol y flwyddyn, ac mae Ceinewydd yn fan canolog i ddolffiniaid, fwy neu lai, lle mae yna siawns go dda i chi eu gweld o wal yr harbwr.

*Awgrym – o brofiad, yr adeg orau i weld dolffiniaid yw diwedd y prynhawn a gyda'r nos.

 

Aros dros nos yn y Falcondale, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
(dwy ystafell ddwbl en suite)
Cyfeiriad: Falcondale Drive, Llanbedr Pont Steffan SA48 7SB

Mae brecwast a swper yn gynwysedig.

Gellir cofrestru o 3pm ymlaen:
Rhaid ymadael
erbyn 11am

Swper yn y Falcondale: Bwrdd i ddau wedi'i archebu ar gyfer 7:30pm (talwyd ymlaen llaw am dri chwrs o'r fwydlen swper sefydlog)

4. **Day** #4
Diwrnod 4, dydd Iau

Ymadael erbyn 11am

Dewisol: Ymweld ag Abaty Ystrad Fflur (dilynwch [SY25 6ES] i gyrraedd yr Abaty – ar y ffordd adre)

Gwybodaeth: Mae Abaty Ystrad Fflur, neu Strata Florida yn Lladin, wedi sefyll mewn llonyddwch mynachaidd ar lannau Afon Teifi er 1201. Cafodd ei sefydlu gan fynachod Sistersaidd ac, yn fuan iawn, hon oedd yr eglwys enwocaf yng Nghymru ar ôl Tyddewi, a daeth yn gonglfaen i ddiwylliant Cymreig. Mae'r abaty wedi cael ei alw'n ‘Abaty Westminster Cymru’.

Gyrru adre

Cadwch anfonebau am unrhyw weithgareddau (gan gynnwys mynediad i gestyll, ac ati), parcio (lle bo hynny'n bosibl), derbynebau petrol, ynghyd â nodyn o'r milltiroedd, a byddwn yn ad-dalu'r costau i chi.

**End**