Anturiaethau Celtaidd
Roedd Celtiaid Cymru ac Iwerddon yn profi'r byd mewn tri dimensiwn: Awyr, Tir a Môr. Ac mae'r dimensiynau hyn yn dal i fod yn faes antur delfrydol:
Yr Awyr - Pa ffordd well o geisio cysylltiad ysbrydol â man arbennig na thrwy astudio'r sêr mewn Safle Darganfod Awyr Dywyll?
Tir - y mynegiant amlycaf o ddimensiwn y Tir yw'r mynydd. Dewiswch o blith y cadwyni o fynyddoedd a darganfyddwch heddwch yno.
Môr - Dyma lle mae'r Tri Dimensiwn yn cwrdd, ac mae ganddo briodweddau iachusol a glanweithiol arbennig. Ewch allan i'r dŵr a gadewch iddo fod yn falm i'ch enaid.
Dewch i'ch trwytho eich hun yn yr elfennau y bu'r Celtiaid yn eu haddoli unwaith.
Hidlwyr