Mae Coedwig Mynwar yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ger Arberth. Gan fod y safle yn agos at Aber Afon Cleddau, mae'r cyfuniad o ddŵr heli a dŵr croyw yn darparu cynefin amrywiol i fywyd gwyllt. Cadwch lygad am adar y glannau megis y crëyr glas a glas y dorlan o'r olygfan dros yr aber ac adar y coetir megis y gnocell fraith fwyaf a'r dringwr bach. Mae'r coetir hefyd yn cynnal ystod eang o fflora. Yn y gwanwyn, mae llwybrau'r coetir yn dod yn fyw gyda'r llygad Ebrill melyn llachar, a gwelir clytiau o glychau'r gog o dan y coed. Yn yr Hydref, mae lliwiau cynnes y coed deri coch a ffawydd, yn ogystal â'r ffyngau rhyfedd eu ffurf, yn wledd i'r llygaid.