Tref farchnad hardd Llandeilo, gyda'i strydoedd cul, ei thai Sioraidd wedi'u paentio a dewis o siopau bwtîc, siopau coffi ac orielau, yw'r man lle daw ffermwyr i gwrdd â steil cefn gwlad. Am ardal gymharol fach, mae Dyffryn Tywi oddi amgylch yn crynhoi nifer o atyniadau treftadaeth a diwylliant, wedi'u gosod yn rhai o'r golygfeydd mwyaf godidog yng Nghymru. Mae Castell Carreg Cennen, sy'n sefyll ar ben clogwyn calchfaen 90 metr o uchder, i'w weld yn amlwg yn erbyn y gorwel am filltiroedd. Saif Castell Dryslwyn ar fryn creigiog arall, a gysylltir am byth â thywysogion y Deheubarth. Mae gerddi Elisabethaidd Aberglasne yn teimlo'n wahanol iawn i erddi enfawr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, ond eto nid yw nepell i ffwrdd. Yn ogystal, ceir eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr ardal, megis Tŵr Paxton sydd ar arddull Neo-Gothig, a Phlas Dinefwr neu Dŷ Newton, yng nghanol ystâd Dinefwr.