Mae Pumlumon, sy’n golygu ‘Pum Copa’, yn grib o gopaon yn y Mynyddoedd Cambriaidd, a’r uchaf ohonynt yw Pen Pumlumon Fawr sydd yn 752 metr o uchder. Er nad dyma'r uchaf o fynyddoedd Cymru, mae llawer o bobl yn ei ystyried yn Goron ar Gymru. Mae hynny oherwydd, ar ddiwrnod clir ar y copa, gellir gweld Cymru gyfan yn agor o flaen eich llygaid. I'r gorllewin, mae Eryri yn cysylltu â'r Preseli drwy Fae Ceredigion ac, i'r dwyrain, mae cadwyni'r Berwyn a'r Aran yn cysylltu â Bannau Brycheiniog ar hyd y ffin â Lloegr. Pumlumon hefyd yw tarddle Afon Hafren, afon hiraf Prydain, yn ogystal â'r Rheidol.