Ar ffiniau tair sir – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – saif pentref hudolus Cenarth. Ei brif atyniad ers oes Fictoria yw'r rhaeadrau ar afon Teifi. Yn yr Hydref daw ymwelwyr o bell ac agos i wylio golygfa ryfeddol yr eogiaid yn llamu. Yn y ffenomen naturiol hon gwelir eogiaid mudol yn llamu am y gorau dros y rhaeadr a mynd i fyny'r afon i silio. Mae Cenarth hefyd yn un o'r ychydig leoedd sydd ar ôl ym Mhrydain lle defnyddir cwryglau o hyd. Mae pysgotwyr yn defnyddio'r cychod bach hyn â gwaelodion crwn, sydd wedi'u gwneud o bren helyg neu onnen a'u gorchuddio â deunydd sy'n dal dŵr, i deithio i lawr yr afon a dal eog a sewin.