Adeiladwyd o'r un Garreg Las o'r Preseli ag a ddefnyddiwyd yn ei 'frawd mawr' sef Côr y Cewri neu Stonehenge. Mae Pentre Ifan, ger Trefdraeth (Sir Benfro) hefyd yn rhannu'r un ymdeimlad o ddirgelwch ynglŷn â'i wir bwrpas. Yn gyffredinol ystyrir mai siambr gladdu gymunedol ydoedd, ond ni chanfuwyd unrhyw olion o esgyrn yma erioed. Awgryma damcaniaeth arall mai fersiwn mwy coeth o faen hir sydd yma ac mai dim ond dangos eu sgiliau yr oedd yr adeiladwyr. Beth bynnag yw'r ateb go iawn, does dim amheuaeth fod Pentre Ifan yn gamp drawiadol o ddulliau adeiladu hynafol. Mae'r maen capan enfawr, sydd 5 metr o hyd ac yn pwyso 15 tunnell, yn cydbwyso'n ofalus ar dri maen hir unionsyth ac wedi llwyddo i aros yn ei le am dros 5,000 o flynyddoedd.