I lawer o Gymry, mae pentref Llangrannog yn ennyn atgofion hapus o deithiau ysgol i'r ganolfan weithgareddau yno sydd wedi cael ei rhedeg gan yr Urdd ers 1932. Mae'r traeth hwn sydd wedi ennill Gwobr y Faner Las a Glan Môr yn arbennig o boblogaidd gyda theuluoedd, gan fod digon o gyfleusterau a lleoedd i fwyta gerllaw, ynghyd ag achubwyr bywyd sy'n patrolio'r traeth yn ystod yr haf. Ychydig i'r gogledd o draeth Llangrannog ceir cildraeth diarffordd Cilborth, y gellir ei gyrchu naill ai o draeth Llangrannog ar lanw isel neu ar risiau'r clogwyni o Lwybr yr Arfordir. Rhwng y ddau draeth mae craig fawr siâp dannedd o'r enw Carreg Bica. Yn ôl y chwedl, arferai berthyn i geg cawr lleol.