Mae gan Aberystwyth, a elwir yn gyffredin yn 'Aber', sail ddilys dros fod yn brifddinas diwylliant Celtaidd Cymru. Yn ogystal â bod yn dref brifysgol, mae hefyd yn gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd mewn adeilad trawiadol yn edrych dros fae'r dref, bryngaer hynafol ac adfeilion castell. Mae'r cyfadeilad hefyd yn gartref i'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a cheir arddangosfeydd, anerchiadau a theithiau rheolaidd i archwilio'r archifau a'r casgliadau enfawr. Mae Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn ganolbwynt ar gyfer arddangos diwylliant Cymraeg cyfoes a diwylliant rhyngwladol ar draws pob ffurf gelfyddydol, gan gynnwys theatr, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, adrodd straeon a chomedi.