Llwybr Arfordir Sir Benfro

Pembrokeshire

Cymru Sir Benfro

Llwybr Arfordir Sir Benfro

Darganfod mwy

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn troi ac yn troelli am 186 o filltiroedd o Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de. Mae'n cynnwys bron pob math o dirwedd arfordirol, o bentiroedd o greigiau folcanig, bwâu calchfaen, tyllau chwythu a staciau môr, i gilfachau rhewlifol cul. Caiff llinellau o glogwyni tywodfaen coch a llwyd eu gwahanu gan draethau tywodlyd. Mae'r llwybr yn dangos digonedd o flodau arfordirol a bywyd adar, yn ogystal â thystiolaeth o weithgarwch dynol o'r cyfnod Neolithig hyd at y presennol. Ond nid yw cerdded y llwybr cyfan ar yr un pryd yn rhywbeth i'r gwangalon. Mae'n cymryd rhwng 10 a 15 diwrnod a thros 10,000 metr o esgyniadau a disgyniadau – sy'n cyfateb i ddringo Everest.