Chwiliwch am aur ym mwyngloddiau aur Dolaucothi

Chwiliwch am aur ym mwyngloddiau aur Dolaucothi

Cymru Sir Gaerfyrddin

Mwyngloddiau Aur Dolaucothi

Darganfod mwy

Pa blentyn (neu oedolyn, o ran hynny) na hoffai roi cynnig ar banio am aur? Dyna un o'r profiadau a gynigir yn y cloddfeydd aur hyn, a leolir yn Nyffryn Cothi hardd. Dechreuodd y Rhufeiniaid chwilio am y metel gwerthfawr yma 2,000 o flynyddoedd yn ôl, gan gerfio llethrau bryniau a dargyfeirio afonydd i ddod o hyd iddo. Parhaodd y mwyngloddio hyd 1938. Bydd teithiau tywys yn mynd â chi yn ôl mewn amser i brofi'r amodau garw dan ddaear mewn gweithfeydd Rhufeinig a Fictoraidd.