Cerddwch ar hyd crib amffitheatr naturiol cwm Coumshingaun

Cerddwch ar hyd crib amffitheatr naturiol cwm Coumshingaun

Iwerddon Waterford

Cerddwch ar hyd crib amffitheatr naturiol cwm Coumshingaun

Darganfod mwy

Mae Coumshingaun yn un o’r enghreifftiau gorau o beiran (neu ‘coum’, yn y Wyddeleg) yn Ewrop, a dyma dirnod mwyaf adnabyddus Mynyddoedd Comeragh. I'r rheiny sydd wedi anghofio eu gwersi Daearyddiaeth yn yr ysgol, peiran yw pant siâp cadair freichiau a geir yn ochr mynydd, lle ffurfiodd rhewlif.

Mae Taith Gerdded Dolen Coumshingaun yn llwybr cymedrol 7.5km o amgylch crib a llwyfandir yr amffitheatr naturiol hon, lle cewch olygfeydd syfrdanol o'r llyn tywyll 365m islaw. Pan fydd yn glir, gallwch weld cyn belled â Phont Afon Suir yn Ninas Waterford a Hook Head yn Swydd Wexford.

Roedd gan y lleidr pen-ffordd o'r 18fed ganrif William Crotty gysylltiad cryf â'r ardal, ac roedd yn cuddio rhag y gyfraith mewn ogofâu yma. Ni ddaeth i ddiwedd da, serch hynny. Yn y diwedd cafodd ei ddal, ei roi ar brawf a'i grogi, a rhoddwyd ei ben ar bigyn y tu allan i garchar y sir fel rhybudd. Os oes gennych amser, gallwch chwilio am ei drysor yn y lough a'r ogof a enwyd ar ei ôl.