Crwydrwch i galon Cors Caron ar hyd ei llwybrau pren

Crwydrwch i galon Cors Caron ar hyd ei llwybrau pren

Cymru Ceredigion

Crwydrwch i galon Cors Caron ar hyd ei llwybrau pren

Darganfod mwy

Crwydrwch y llwybrau pren yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ardal 2,000 erw o wlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol ger Tregaron. Mae'r warchodfa'n cynnwys tair cyforgors - ardaloedd o fawn dwfn sydd wedi cronni dros 12,000 o flynyddoedd.  Mae'n un o'r systemau cyforgors gorau ym Mhrydain. Mae'r gwelyau cyrs nas dofwyd, y glaswelltiroedd gwlyb, y coetir, yr afonydd, y nentydd a'r pyllau dwr yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt a phaled lliwiau o goch, melyn a brown sy'n newid o hyd ac sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r bryniau gwyrdd cyfagos.