Mae tair pont ar wahân yn rhychwantu rhaeadrau 90 metr Afon Mynach – un wedi'i hadeiladu ar ben y llall rhwng yr 11eg a'r 19eg ganrif. Yn ôl y chwedl, adeiladwyd y bont wreiddiol gan y diafol gan ei bod yn dasg rhy anodd i feidrolion. Cytunodd i adeiladu'r bont yn gyfnewid am enaid y cyntaf i groesi'r bont. Fodd bynnag, cafodd ei drechu gan hen wraig gyfrwys a'i alltudio o'r wlad am byth.