Dewch i grwydro o gwmpas un o’r cestyll mwyaf cyflawn yng Nghymru sef Castell Cydweli

Dewch i grwydro o gwmpas un o’r cestyll mwyaf cyflawn yng Nghymru sef Castell Cydweli

Cymru Sir Gaerfyrddin

Castell Cydweli

Darganfod mwy

Castell Normanaidd Cydweli, a saif ar lannau Afon Gwendraeth, yw un o'r enghreifftiau gorau o'i fath sydd wedi goroesi yng Nghymru. Cadwch lygad am y bwâu lle gallai creigiau fod wedi cael eu taflu at y gelyn diarwybod islaw. Bydd edmygwyr Monty Python yn adnabod y castell o olygfa gyntaf Monty Python and The Holy Grail. Camlas Kymer Cydweli yw'r hynaf yng Nghymru, a adeiladwyd ym 1766. Adeiladwyd y gamlas yn wreiddiol i gludo glo allan o'r dref, ac mae bellach yn hafan i fywyd gwyllt ac yn daith gerdded ddymunol.

DILYNWCH NI AR EIN WEFANAU CYMDEITHASOL