Mae tarddle Afon Teifi, un o afonydd hiraf Cymru, i'w gael yng ngogledd Ceredigion. Mae Llyn Teifi a’r llynnoedd eraill - Llyn Hir, Llyn Gorlan a Llyn Egnant - yn gorwedd ynghudd yn y bryniau, ar lwybr anghysbell y mynachod o Abaty Ystrad Fflur. Y grŵp hudolus hwn o lynnoedd rhewlifol dwfn yw'r lle perffaith i gilio oddi wrth brysurdeb bywyd bob dydd. Llyn Teifi yw un o'r mannau gorau yng Nghymru i fynd i bysgota yn y gwyllt, gan fod ganddo nifer da o frithyll brown gwirioneddol wyllt.