Ewch am dro ar hyd llwybrau hynafol trwy un o’r tirweddau cynhanesyddol mwyaf hudolus - mor llesmeiriol fel y caiff ei hadnabod fel Gwlad Hud a Lledrith. Mae gan y Preseli orffennol cyfoethog a dramatig, yn anad dim fel ffynhonnell chwedlonol y Cerrig Gleision sy'n ffurfio cylch mewnol Côr y Cewri (Stonehenge). Mae gweddillion cynhanesyddol, carneddau claddu a bryngaerau o Oes yr Haearn yn britho'r rhostir gwyllt a'r glaswelltiroedd.