Ymchwiliwch i hanes y diwydiant gwlân

Ymchwiliwch i hanes y diwydiant gwlân

Cymru Sir Gaerfyrddin

Amgueddfa Wlân Cymru,

Amgueddfa Wlân Cymru,

Tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o'r Castellnewydd Emlyn y mae pentref pert Dre-fach Felindre. Yr oedd unwaith yn ganolbwynt i ddiwydiant gwlân ffyniannus, a enillodd iddo'r enw 'Huddersfield Cymru’. Er nad oes llawer ar ôl o'r diwydiant yma nawr, bydd Amgueddfa Wlân Cymru, sydd wedi'i lleoli yn hen Felin y Cambria, yn rhoi cipolwg diddorol i chi ar sut beth oedd bywyd pan oedd y gwlân a gneifiwyd gan ffermwyr lleol yn cael ei wehyddu cyn cael ei ddefnyddio i wneud crysau, siolau, blancedi a sanau. Gall ymwelwyr hen ac ifanc gael tro ar gribo, troelli a gwnïo ac mae staff cyfeillgar yr amgueddfa wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a rhoi arddangosiadau.

content-img