Cartref Dylan Thomas

Laugharne

Cymru Sir Gaerfyrddin

Cartref Dylan Thomas

Darganfod mwy

Mae bron yn amhosib sôn am dref Talacharn heb sôn am 'Dylan Thomas' yn yr un gwynt. Mae'n gyfystyr â'r dref – roedd yn byw yma, roedd wrth ei fodd yma, bu'n yfed mewn llawer o'i thafarndai ac mae wedi'i gladdu ym mynwent eglwys Sant Martin. Ac nid yw'r un ymweliad â Thalacharn yn gyflawn heb bererindod i'r Boathouse, lle'r oedd Dylan yn byw gyda'i wraig a'i deulu ym mlynyddoedd olaf ei fywyd. Ar eich ffordd yno, byddwch yn mynd heibio i'r sied ysgrifennu sy'n edrych dros aber afon Taf, lle ysgrifennodd Thomas ei ddrama radio enwog, 'Under Milk Wood’. Mae wedi cael ei gadael fel petai Thomas newydd fynd allan am ychydig o awyr iach.