Cefn Sidan

Sir Gaerfyrddin

Cymru Sir Gaerfyrddin

Cefn Sidan

Darganfod mwy

Beth am godi cyn y wawr i wylio'r pelydrau cyntaf yr haul yn treiddio dros y twyni a'r traeth yng Nghefn Sidan. Ar fore clir cewch weld golygfeydd godidog cyn belled i'r gorllewin ag Ynys Bŷr, draw i Ynys Wair, ac yna draw i Benrhyn Gŵyr. Yn 13km o hyd, mae traeth hiraf Cymru yn ffefryn gyda thorheulwyr, nofwyr a cherddwyr fel ei gilydd. Ond adeg llanw isel datgelir hanes tywyll y rhan hon o'r arfordir, pan ddaw olion nifer o longddrylliadau i'r amlwg. Cafodd rhai eu dal rhwng y llanw ffyrnig a glannau bas Môr Hafren, cafodd eraill eu hudo i'r traeth gan gangiau o ysbeilwyr i ladrata eu cargo gwerthfawr.