Ni ddylech ar unrhyw gyfrif ddrysu rhwng enw Saesneg tref Ceinewydd (New Quay) gyda'i chefnder Cernyweg, (Newquay). Roedd Ceinewydd yn borthladd adeiladu llongau a chanolfan bysgota ffyniannus ar un adeg, a chartref capteiniad llong oedd yn gyfarwydd â mynd ‘rownd yr Horn’ allai fod wedi ysbrydoli rhai o gymeriadau drama enwog Dylan Thomas, fu’n byw yma am gyfnod.
Roedd y cildraethau diarffordd o gwmpas y Ceinewydd hefyd yn sicrhau bod gan yr ardal fasnach smyglo iach!
Y dyddiau hyn mae’n gyrchfan gwyliau glan môr poblogaidd, sy’n adnabyddus am ei deithiau cwch i weld dolffiniaid, traethau brafn amrywiaeth o chwaraeon dŵr. Mae harbwr cysgodol Ceinewydd yn angorfa ddiogel ar gyfer cychod hwylio a chychod pysgota. Mae Regata Bae Ceredigion wedi’i chynnal yno bob mis Awst ers y 1870au, gyda rasys hwylio i bob oed a rasys nofio a digwyddiadau hwyl i blant.
Website ( Cymraeg) : https://www.darganfodceredigion.cymru/ardaloedd-ceredigion/traethau-a-chymunedau-glan-mor-ceredigion/traethau-a-phentref-y-cei-newydd/