Harbwr a Thref Ceinewydd

Harbwr a Thref Ceinewydd

Cymru Ceredigion

Harbwr a Thref Ceinewydd

Darganfod mwy

Ni ddylech ar unrhyw gyfrif ddrysu rhwng enw Saesneg tref Ceinewydd (New Quay) gyda'i chefnder Cernyweg, (Newquay). Roedd Ceinewydd yn borthladd adeiladu llongau a chanolfan bysgota ffyniannus ar un adeg. Roedd y cildraethau diarffordd o amgylch Ceinewydd hefyd yn sicrhau bod gan yr ardal fasnach smyglo iach! Y dyddiau hyn mae’n gyrchfan gwyliau glan môr poblogaidd, sy’n adnabyddus am ei deithiau cwch i weld dolffiniaid, traethau arobryn ac amrywiaeth o chwaraeon dŵr. Mae harbwr cysgodol Ceinewydd yn darparu angorfa ddiogel ar gyfer cychod pleser a chychod pysgota. Mae Regata Bae Ceredigion wedi’i chynnal yno bob mis Awst ers y 1870au, gyda rasys hwylio i bob oed a rasys nofio a digwyddiadau hwyl i blant.