Traeth Marloes

Sir Benfro

Cymru Sir Benfro

Traeth Marloes

Darganfod mwy

Mae'r tro cerdded hanner milltir i lawr y clogwyn o'r maes parcio yn peri bod llawer o bobl yn diystyru'r traeth ac nid oes cyfleusterau i'w cael yno. Ond dyma'n union sy'n gwneud Traeth Marloes mor arbennig. Yn gyfnewid am eich ymdrechion, byddwch yn cael eich croesawu gan 1.5 km o dywod eang gwag, gyda thyrrau tywodfaen yn sefyll mewn pyllau llanw isel sy'n gyforiog o bysgod bach a berdys, yn ogystal â golygfeydd o Ynysoedd Sgogwm a Gateholm. Mae'r tywod gwastad yn berffaith ar gyfer gemau traeth ac mae'r dŵr sy'n glir fel grisial yn dda ar gyfer syrffio (ond byddwch yn ofalus rhag llanw terfol (rips)). Darperir yr holl ddifyrrwch yma trwy garedigrwydd natur – nid gan unrhyw arcedau.