Geoparc UNESCO yr Arfordir Copr

Waterford

Iwerddon Waterford

Geoparc UNESCO yr Arfordir Copr

Mae'r Arfordir Copr yn cael ei enw o'r cloddfeydd enfawr a oedd ar waith yn yr ardal yn ystod y 19eg ganrif, a adawodd etifeddiaeth archeolegol a diwylliannol ysblennydd ar ôl. Mae'n ymestyn am ryw 17km o Kilfarrasy yn y dwyrain i Stradbelly yn y gorllewin a chafodd ei ddynodi yn Geoparc Byd-eang UNESCO yn 2004. Mae'r creigiau a'r geosafleoedd yn adrodd hanes y modd y gwnaeth llosgfynyddoedd tanfor, anialdiroedd a llenni iâ i gyd chwarae eu rhan wrth greu'r tirweddau a welwch chi heddiw. Mae'r stori ddynol yn egluro sut y mae pobl y rhanbarth wedi bod mewn cysylltiad di-dor â'r tirweddau hyn o'r hen oesau hyd heddiw.