Glendalough a'r Llyn Uchaf

Glendalough a'r Llyn Uchaf

Iwerddon Wicklow

Glendalough a'r Llyn Uchaf

Darganfod mwy

Ystyr Glendalough neu Gleann da Loch yw 'Dyffryn y Ddau Lyn'. Cafodd y dyffryn hwn ei gerfio gan rewlifoedd yn ystod Oes yr Iâ diwethaf, a cheir yno harddwch dilychwin ynghyd â thawelwch nefolaidd. Nid yw'n fawr o syndod i San Cefin sefydlu treflan fynachaidd yma yn y 6ed ganrif. Dywedir iddo dreulio saith mlynedd ar ei ben ei hun mewn ogof ger y Llyn Uchaf, a adwaenir fel Gwely San Cefin.

Hyd yn oed yn un o brif atyniadau twristaidd Dwyrain Hynafol Iwerddon, os nad Iwerddon gyfan, ni fydd rhaid i chi grwydro'n rhy bell i ddarganfod y llonyddwch a'r ymdeimlad ysbrydol a ddenodd fynachod yma ganrifoedd yn ôl.