Ailgysylltwch â natur yn ystod gwyliau gwersylla i 'Ddod at eich Coed' ym Mhenrallt. Mae'r Profiadau Penwythnos yn cynnwys teithiau fforio tywysedig ar lan y môr, creu jin gwyllt, saffari arfordirol wrth sefyll ar badlfwrdd, taith mewn canŵ ar hyd afon Teifi, yn ogystal â gweithgareddau ar y safle, megis syllu ar y sêr, straeon o gwmpas tân y gwersyll, ac anturiaethau gwylltgrefft.