Dechreuodd Titus greu celf gwydr o fowldiau plastr o grychdonnau tywod ar Draeth Poppit ar ôl mynychu gweithdy creadigol yng Ngaerdydd 15 mlynedd yn ôl. Sylweddolodd Titus fod perthynas ddiddorol rhwng dŵr môr llanw, tywod a gwydr ac y gallai celf gwydr amgylcheddol amlygu harddwch aruthrol ein hamgylchedd morol yn yr unig barc cenedlaethol arfordirol ar dir mawr y DU – Parc Cenedlaethol Sir Benfro. Mae Titus yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli pobl i warchod y lle hardd hwn, yn naturiol.
Gyda chefnogaeth ffrindiau, cododd Titus arian i brynu odyn wydr fechan a cafodd gomisiwn yn 2019 gan GIG Hywel Dda i greu campwaith mewn gwydyr ar gyfer y Ganolfan Iechyd Integredig newydd yn Aberteifi.
Mae’r gwaith - ‘Cyswllt’ - yn ymgorffori goleuadau, a cherddoriaeth – wedi’u creu o’r tonfeddi yn y castiau gwydr, ynghyd â delwedd o Ynys Aberteifi a’r ymadrodd ‘Peidiwch â bod yn ynys iddyn nhw eu hunain” sydd o bwys mawr i Titus, sy’n gobeithio bod ei gelf yn hybu cysylltiad â byd natur y tu mewn i’r adeilad.
Mae darnau eraill o waith Titus i’w gweld yn lleol yn ardal Aberteifi gan gynnwys Gwesty'r Cliff, Gwbert, Siop Syrffio Tonnau ac Optegwyr Pritchard a Cowburn yn y dref a chaffi Crwst Poppit, ger y traeth.
Mae Titus hefyd wedi cael sylw ar raglen ‘Heno’ ar S4C lle creodd banel o wydr llanw ag arysgrif arno gyda’r gerdd ‘Llanw’ gan y cyn Archdderwydd a Bardd, Dic Jones, ar gais mab Dic, Brychan Llŷr.
Mae Titus yn parhau i fyw yn agos at Draeth Poppit ac yn creu gwydr a phaentiadau o dirweddau arfordirol.