Rydym yn cyflwyno Diwrnodau Celtaidd i chi. Dylech feddwl am y rhain yn llai fel teithiau a mwy fel mannau cychwyn a fydd yn eich helpu i lunio eich profiad o Lwybrau Celtaidd. Oherwydd rydym yn credu'n gryf mai chi yw curadur eich profiad Llwybrau Celtaidd eich hun.
Felly, i'r perwyl hwn, rydym wedi creu 6 Diwrnod Celtaidd, un ar gyfer pob sir sy'n ffurfio'r Llwybrau Celtaidd. Gall pob un o'r Diwrnodau Celtaidd gymryd cyn lleied ag 1 diwrnod neu gymaint â 3. Gallant weithio fel seibiannau byr annibynnol neu gellir eu cysylltu â'i gilydd. Efallai y byddwch am lunio profiad Llwybrau Celtaidd o bob un o'r tair sir Wyddelig, neu un o'r holl rai Cymreig. Neu efallai y byddwch hyd yn oed yn penderfynu gwneud 'Y Daith Fawr' – pob un o'r chwe sir. Os felly, mae'r Diwrnodau Celtaidd yn rhedeg mewn trefn resymegol a gaiff ein hargymell, gan dybio y byddwch yn cyrraedd yn Nulyn ac yn gadael o Orllewin Cymru – Swydd Wicklow, ymlaen i Wexford, Waterford, yn ôl i Wexford i ddal y fferi o Rosslare i Abergwaun, Sir Benfro, Ceredigion ac yn olaf, Sir Gaerfyrddin.