Mae rhaeadr fyrlymus 80 m o uchder yn pefrio yn y pellter wrth i chi ddechrau'r daith gerdded bleserus hon i droed Rhaeadr Mahon ym Mynyddoedd Comeragh. Mae'r daith gerdded i Raeadr Mahon, sy'n siwrnai fer yn y car o bentref Lemybrien, yn ymweliad pleserus i'r teulu i gyd gan ei bod yn cynnig awyr iach y mynydd, golygfeydd ysblennydd a llwybr poblogaidd hawdd ei ddilyn.
Mae'r rhaeadr yn disgyn o'r man uchaf ym Mynyddoedd Comerach, yng nghornel dde-ddwyreiniol y gadwyn o fynyddoedd. Mae'r gadwyn yn cynnwys 12 o gopaon penodol, ac mae ei phwynt uchaf yn 792 m (2,598 troedfedd). Mae'n cynnwys ystod o lwybrau heicio a fydd yn eich arwain at amrywiaeth anhygoel o lynnoedd a chymoedd o'r Oes Iâ.
Mae yna 'Heol Hud' chwedlonol ger Rhaeadr Mahon lle gallwch stopio'r car, ei osod yn y gêr niwtral, a bod yn barod i gael eich syfrdanu wrth i'ch car rolio i fyny'r bryn!