Caiff ei ddisgrifio fel porthladd lleiaf Iwerddon, ac mae porthladd bychan Fethard Quay ymhlith y rhai hynaf ar arfordir dwyreiniol Iwerddon sydd yn ei ffurf wreiddiol yn bennaf. Adeiladwyd yr harbwr ym 1741 ac mae ond 30 metr o led a 60 metr o hyd, gan gynnwys cei a dau bier. Ni fwriadwyd iddo erioed fod yn harbwr ar gyfer cychod pysgota ond cafodd ei adeiladu'n bwrpasol i gysgodi un llong yn unig - y King’s Barge - criwser refeniw oedd yn gyfrifol am blismona gweithgareddau smyglo.