Llynnoedd Blessington

Llynnoedd Blessington

Iwerddon Wicklow

Llynnoedd Blessington

Darganfod mwy

Wrth odre Mynyddoedd Wicklow, cronfa ddŵr 5,000 erw yw Llynnoedd Blessington a ffurfiwyd dros 70 mlynedd yn ôl trwy adeiladu argae Poulaphouca a'r orsaf bŵer trydan dŵr. Yn ogystal â bod yn brif ffynhonnell dŵr yfed Dulyn, mae'n lle poblogaidd i ymarfer campau ar y dŵr megis pysgota, hwylio a mynd mewn caiac. Gallwch gerdded neu feicio ar hyd y Blessington Greenway 6.5km o hyd gyda glan y llyn ac i mewn i goetir naturiol.  Neu yrru ar hyd y ffordd 26km o amgylch y dyffryn lle'r oedd afon Kings unwaith yn ymuno ag afon Liffey. Disgrifiodd y nofelydd a'r bardd Brendan Behan ei daith i'r ardal fel 'taith at em Wicklow’