Pan ddaw'n fater o oleudai, nid oes gan yr un ohonynt hanes hwy o amddiffyn morwyr na Goleudy Hook. Hwn yw goleudy gweithredol hynaf y byd, sydd wedi sefyll am dros 800 mlynedd. Roedd coelcerth wedi bod yno ers y 6ed ganrif, gyda mynachod yn gofalu amdani. Ond adeiladodd y marchog pwerus William Marshall y goleudy rhwng 1210 a 1230 i dywys llongau i'w borthladd yn Ross. Coelcerth o dân glo oedd y golau gwreiddiol, nes iddo gael ei ddisodli gan lamp a losgai olew morfil ym 1791. Cafodd honno yn ei thro ei chyfnewid am oleuadau nwy ym 1871 ac ym 1972, newidiwyd y golau i ddefnyddio trydan. Ym 1996 daeth y goleudy yn gwbl awtomatig a gadawodd ceidwaid olaf y goleudy o'r diwedd.