Mae Gorllewin Cymru a Dwyrain Hynafol Iwerddon yn llawn lleoedd gwych i fwyta ac yfed. Llefydd sy'n cynnig gwir flas o Gymru ac Iwerddon. Mae’r rhan hon o’r Casgliad Profiad Celtaidd yn eich helpu i ddod yn nes at yr Ysbryd Celtaidd drwy adrodd hanes ein bwyd a’n diod a’r cynhwysion sy’n ei wneud yn arbennig. Gallwch gyfuno chwilota a chwedlau llên gwerin yn Wexford. Neu dewch o hyd i wledd ar arfordir Sir Gaerfyrddin a choginiwch eich helfa ar y traeth. Gallwch greu a blasu jin yng Ngheredigion neu ddarganfod pam mai Wicklow yw Gardd Iwerddon.