Darganfyddwch yr elfennau sy'n gwneud y tiroedd Celtaidd hyn mor arbennig ac sy’n ysbrydoli artistiaid a chrefftwyr. Mae’r rhan hon o’r Casgliad Profiad Celtaidd yn helpu i adrodd hanes Cymru ac Iwerddon. Dysgwch sut mae'r gorffennol yn siapio'r presennol. Darganfyddwch gynhyrchion sydd wedi'u llunio gyda gwir ymdeimlad o le. Cymerwch gwrs gyda crefftwr Cymreig. Mwynhewch y gerddoriaeth ac ymunwch yn y canu a’r dawnsio Gwyddelig traddodiadol. Gwyliwch wehyddion wrth eu gwaith yn Sir Benfro neu gwelwch sut mae creu grisial yn Waterford. Dysgwch am hanes Iwerddon yn Ferns, neu darganfyddwch sut mae cynefin yn siapio'r hunaniaeth Gymreig.